Anfeidrol wyt, fy Nuw,
Anfeidrol yw dy ras,
A thyma'r man y mae
'M dedwyddwch mwyaf maes:
Anghyfnewidiol yw Efe,
Am hyn fe'm dwg
i deyrnas ne'.
Mae genyf oll yn oll
Wrth 'n unig dy fwynhau,
Y fan b'ost Di dy Hun
'Does eisieu dyn na dau;
Dy hyfryd ras a'm lleinw i gyd
Heb ran yn wag o'm henaid drud.
Fy nymuniadau i gyd
Sy'n cael atebiad llawn,
A'm holl serchiadau i 'nghyd,
Hyfrydwch nefol iawn:
Pan byddwy'n gwel'd wrth oleu'r wawr,
Mai eiddo im' yw f'Arglwydd mawr.
William Williams 1717-91
[Mesur: 666688] gwelir: Fy Iesu yw fy Nuw |
Infinite art thou, my God,
Infinite is thy grace,
And here is the place where
My greatest happiness is:
Unchangeable is he,
Therefore he will bring me
to the kingdom of heaven.
If have all in all
Only by enjoying thee,
The place thou thyself wast
There is no need of man nor two;
Thy delightful grace shall fill me wholly
Without an empty part of my precious soul.
All my desires
Are getting a full response,
And all my affections altogether
Very heavenly delight:
When I am seeing by the light of the dawn,
That my own is my great Lord.
tr. 2019 Richard B Gillion
|
|